Mae digonedd o ffyrdd creadigol o greu perthynas glós rhwng eich plentyn a'r bobl sy'n annwyl i chi drwy ddefnyddio ffonau clyfar, gliniaduron a hyd yn oed llythyrau.
“Mae rhyngweithio fel hyn yn bwysig iawn i chi yn ogystal â’ch plentyn,” medd Janet Cooper, therapydd lleferydd ac iaith. “Dydy e ddim yr un fath â gweld pobl mewn bywyd go iawn, ond mae’n ffordd wych o gynnal rhwydweithiau cymorth. A pheidiwch â diystyru’r manteision i fabis ifanc hefyd: maen nhw’n adnabod lleisiau, a bydd clywed eich sgyrsiau yn helpu eu sgiliau iaith.”

I wneud yn fawr o’r cyfleoedd i gysylltu dros bellter fel hyn, cynlluniwch weithgaredd gyda'ch plentyn a chreu teimlad o ddisgwyliad ymlaen llaw. “Mae paratoi a siarad am yr alwad yn gyfle gwych arall i sgwrsio,” yn ôl Janet. “Ceisiwch gyffroi’ch plentyn drwy ofyn cwestiynau syml fel ‘rydyn ni’n mynd i ffonio nain/mam-gu; beth fydd hi’n wisgo ti’n meddwl?’ Neu ‘beth ddylen ni ganu iddi hi?’.”
Ar ôl galwad, gallwch siarad am beth ddigwyddodd a chynllunio’ch galwad nesaf. “Os byddwch chi’n cymryd lluniau o'r sgrin yn ystod sgwrs fideo, gallwch ddangos y lluniau i’ch plentyn wedyn, a thrafod gyda phwy gwnaethoch chi siarad. Neu os ydy ffrind neu berthynas yn gwneud sioe bypedau neu'n adrodd stori, recordiwch hynny ac wedyn ailchwarae’r fideo a thrafod y peth yn ystod amser gwely,” ychwanega Janet.
Defnyddio sgyrsiau fideo a negeseuon drwy luniau
“Un peth allweddol i’w gofio yw cymryd tro, fel bod neb yn gwneud y siarad i gyd, ac mae pawb yn cael tro,” medd Janet.
“Mewn sgyrsiau wyneb yn wyneb, rydym yn darllen iaith corff y person arall a’r mynegiant ar ei wyneb, a dydy hi ddim mor hawdd gwneud hynny yn ystod sgwrs o bell. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n oedi yn ystod y sgwrs i roi cyfle i'ch plentyn ddeall beth yw'r arwyddion hynny, a allai fod yn fwy cynnil ar sgrin. Ac os yw’ch plentyn yn amharod i siarad, neu os oes gan eich plentyn atal dweud, peidiwch â'i orfodi i 'berfformio' ar y sgrin. Gofynnwch i'ch plentyn gymryd rhan heb ddefnyddio geiriau i ddechrau; gallech ei annog i godi llaw yn hytrach na siarad neu ganu.”
Gêm ‘Beth ydw i?’
Gofynnwch i bwy bynnag sydd ar ochr arall yr alwad i ddewis prop neu wrthrych, a’i ddatgelu’n araf bach er mwyn difyrru’ch plentyn ar yr alwad, medd Janet. “Dangoswch ychydig bach o’r eitem i’r camera, a gweld a yw'ch plentyn yn gallu dyfalu beth yw e. Wedyn, efallai gallech chi roi cliw a dangos ychydig bach mwy i'ch plentyn. Mae plant yn meddwl ei fod yn ddoniol pan fydd y gwrthrych yn ymddangos ar y sgrin o’r diwedd. Nid dim ond y prop sy’n bwysig. Mae’r llais rydych chi’n ei ddefnyddio, y cyffro graddol a’r edrych ymlaen yn bwysig hefyd.”

'Charades'
Mae’r gêm parti yma’n glasur, ac yn ddelfrydol ar gyfer galwadau fideo – mae dyfalu’r anifail yn un hawdd – a gallwch addasu pa mor anodd yw'r gêm yn ôl oedran eich plentyn, medd Janet. “Os yw eich plentyn yn iau na dwy flwydd oed, gallech ddefnyddio prop a gofyn i’r plentyn ddyfalu ar sail y cliw yma.”
Her lluniau
“Rydyn ni’n anfon lluniau at aelodau’r teulu o’n plant yn gwneud pethau gwirion o gwmpas y tŷ gan ddefnyddio propiau, ac yn gofyn iddyn nhw ail-greu’r golygfeydd,” medd Nicola, mam o gymuned ar-lein Plant Bach Hapus. “Mae’r plant wrth eu boddau yn gweld yr oedolion yn bod yn wirion, ac mae cael heriau yn ôl yn eu helpu i barhau i ‘chwarae’ gyda theulu sy’n bell i ffwrdd.”
Cystadleuaeth bobi i’r teulu
Mae Elia, o gymuned ar-lein Plant Bach Hapus, yn argymell coginio gyda’ch gilydd ar alwad fideo. “Fe wnaethon ni hyn gyda’r teulu cyfan, a 10 o blant i gyd gyda’i gilydd. Roedd gan bawb yr un rhestr o gynhwysion i wneud cacen siocled, ac yna roedd pob cartref wedi ychwanegu un cynhwysyn arbennig yn y gacen ei hun, ac un i addurno'r gacen. Dad oedd y prif gogydd yn dangos i’r plant i gyd sut i wneud y gacen, gyda ni’r oedolion yn helpu gyda phethau anodd fel y popty.” Wedyn roedd aelodau’r teulu wedi mynd â darnau o’r holl gacennau draw yn ddiogel i dŷ tad Elia er mwyn iddo allu eu beirniadu. “Roedd yn braf oherwydd roedden ni i gyd ar yr alwad am dair awr, ac roedd yn ddifyr iawn.”

Bingo
Anfonwch gardiau bingo sydd wedi’u creu gennych chi at eich anwyliaid, gyda lluniau yn lle rhifau ar gyfer plant iau, ac enwebu cyhoeddwr yn eich grŵp (does dim rhaid gwisgo tei bô sgleiniog!).
Ail-greu gyda’ch ailgylchu
Anfonwch restr o eitemau ailgylchu cyn yr alwad a meddwl am thema. Pan fydd pawb ar-lein, gosodwch her iddyn nhw greu rhywbeth godidog a siarad am yr hyn maen nhw’n ei wneud.
Helfa sborion
Meddyliwch am restr syml o bethau i’r bobl ar yr alwad ddod o hyd iddyn nhw – y person cyntaf yn ôl i’r sgrin gyda’r holl eitemau fydd yn ennill. “Rydyn ni wrth ein bodd gyda helfa fel hyn, ac mae’n syndod pa mor gystadleuol yw’r oedolion hefyd,” medd Helen o gymuned ar-lein Plant Bach Hapus.
Taith gerdded o bell
Gwnewch alwad fideo i ffrindiau neu deulu pan fyddwch chi’n mynd am dro i brofi’r synhwyrau gyda’ch plentyn, gan siarad am beth rydych chi’n ei weld a’i glywed. Neu gallech recordio fideos a thynnu lluniau wrth fynd am dro, a gwneud sesiwn i ddangos ac egluro i ffrind neu aelod o'r teulu wedyn.

Stori amser gwely
“Rydyn ni’n anfon ail gopi o hoff lyfr ein plant at mam-gu a thad-cu, ac maen nhw’n ei ddarllen dros alwad fideo wrth i ni ddarllen gartref,” medd Gillian o gymuned ar-lein Plant Bach Hapus. “Mae’n wirioneddol hyfryd. Yn enwedig pan fydd mam-gu a thad-cu yn ymarfer ymlaen llaw i berffeithio’r cymeriadau.”
A chofiwch am ffyrdd eraill o gadw mewn cysylltiad
Galwadau ffôn
I wneud yn fawr o’ch sgwrs, canolbwyntiwch ar greu disgwyliad unwaith eto, medd Janet. “Gallech chi ddangos llun i’ch plentyn o'r person rydych chi’n ei ffonio a chadw’r llun o’ch blaen, er mwyn i’ch plentyn wneud y cysylltiad rhwng y llais a’r person. Efallai na fydd plant ifanc iawn yn deall yr iaith i gyd, felly siaradwch yn araf gan ddefnyddio llais sy'n mynd i fyny ac i lawr, a symleiddio beth rydych chi’n ei ddweud i’w helpu.”
A gwnewch yn siŵr eich bod chi a’r galwr yn defnyddio iaith gadarnhaol a chariadus, medd Janet. “Mae dweud pethau fel ‘Caru ti’, ‘Ti’n bwysig i fi’, a ‘Dw i’n meddwl amdanat ti’ yn gysur ac yn gallu helpu pawb i deimlo hyd yn oed mwy o gysylltiad â’i gilydd.”

Llythyrau a chardiau
“Mae technoleg yn wych, ond peidiwch ag anghofio’r pleser syml o dynnu llun, ei roi mewn amlen a’i bostio,” medd Lorraine Lee, arbenigydd ar fagu plant a datblygiad plant. “Anogwch ffrindiau ac aelodau o’r teulu i ysgrifennu’n ôl a chreu rhywbeth bydd eich plentyn yn gallu ei ddeall. Dylen nhw ddefnyddio geiriau ac iaith syml iawn, tynnu lluniau, a rhoi sticeri ar y llythyr. Mae cael llythyr gyda’u henw arno yn rhywbeth cyffrous iawn i blant bach.”
Ac mae Janet yn argymell defnyddio’r broses o wneud llythyrau a chardiau fel gweithgaredd sy’n creu perthynas glós rhyngoch chi. “Gwnewch flodau print llaw, tynnwch luniau, a defnyddiwch ffotograffau a stampiau tatws gyda’ch gilydd i bersonoli’r llythyr. Mwynhewch y profiad gyda’ch gilydd; siaradwch am bopeth rydych chi’n ei wneud gyda’ch gilydd, y siapiau, y lliwiau a’r gweadau, a gwrandewch pan fydd eich plentyn yn ateb – mae hyn yn wych ar gyfer dysgu iaith.”

