Rheolau indecsau ar gyfer lluosi a rhannu
Lluosi
Sut mae cyfrifo \({2}^{3}\times{2}^{5}\)?
\({2}^{3} = {2}\times{2}\times{2}\)
\({2}^{5} = {2}\times{2}\times{2}\times{2}\times{2}\)
Felly \({2}^{3}\times{2}^{5} = {2}\times{2}\times{2}\times{2}\times{2}\times{2}\times{2}\times{2} = {2}^{8}\)
Mae \({2}^{3}\) yn rhoi tri \({2}\) ac mae \({2}^{5}\) yn rhoi pum \({2}\), felly gyda’i gilydd mae wyth \({2}\).
Yn gyffredinol, \({2}^{m}\times{2}^{n} ={2}^{({m} + {n})}\)
Enghreifftiau
\({2}^{5}\times{2}^{4} = {2}^{({5} + {4})} = {2}^{9}\)
\({2}^{7}\times{2}^{3} = {2}^{({7} + {3})} = {2}^{10}\)
Mae’r rheol yn gweithio hefyd ar gyfer rhifau eraill, felly:
\({3}^{4}\times{3}^{2} = {3}^{({4} + {2})} = {3}^{6}\)
\({25}^{6}\times{25}^{4} = {25}^{({6} + {4})} = {25}^{10}\)
Rhannu
Os wyt ti’n rhannu \({2}^{5}\) â \({2}^{3}\) fe weli di fod ambell \({2}\) yn canslo:
Image caption, Rhannu rhifau ag israddau neu bwerau
Rhannu pum 2 â thri 2.
Image caption, Rhannu rhifau ag israddau neu bwerau
Ar ôl rhannu, dau 2 sydd ar ôl.
1 of 2
Felly \({2}^{5}\div{2}^{3} = {2}^{2}\)
Yn gyffredinol, \({2}^{m}\div{2}^{n} = {2}^{({m} - {n})}\)
Enghraifft
\({2}^{5}\div{2}^{2} = {2}^{({5} - {2})} = {2}^{3}\)
\({2}^{7}\div{2}^{3} = {2}^{({7} - {3})} = {2}^{4}\)
Mae’r rheol yn gweithio hefyd ar gyfer rhifau eraill, felly:
\({5}^{10}\div{5}^{3} ={5}^{({10} - {3})} = {5}^{7}\)
\({45}^{9}\div{45}^{4} = {45}^{({9} - {4})} = {45}^{5}\)